Call Promove now on +44 (0)1970 820 893 or contact us.
Bydd dyn o Aberystwyth yn gweld ei ddyfais yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe drwy gydol mis Mai ar ôl ennill cystadleuaeth i ganfod dyfeiswyr newydd o Gymru.
Canmolwyd Dr Huw Thomas am botensial masnachol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol ei ddyfais, y Promove Sling.
Cafodd Dr Thomas, sy’n defnyddio cadair olwyn, ei ysbrydoli i ddylunio’r sling ar ôl i ddynion tân orfod ei godi o lawr cyntaf adeilad ar ôl i’r lifft dorri. Mae’r gwyddonydd wedi ymddeol wedi creu dyfais gwacâd mewn argyfwng a all helpu pobl anabl neu analluog a hefyd y boblogaeth gynyddol o bobl ordew yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.
Mae cystadleuaeth ‘Ffau Dyfeiswyr’ yn rhan o’r Mis Amgueddfeydd ac Orielau 2008 sy’n rhedeg rhwng 1 - 31 Mai. Y thema ar gyfer y Mis eleni yw syniadau ac arloesedd a gofynnwyd i’r rhai a gymerodd ran yn y gystadleuaeth i gyflwyno eu syniadau ar gyfer syniadau a dyfeisiadau o Gymru ar gyfer y dyfodol a fedrai newid bywyd er gwell.
Beirniadwyd y gystadleuaeth gan gynrychiolwyr o ysgol dylunio cynnyrch Prifysgol Morgannwg, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe a Swyddfa Eiddo Deallusol y Deyrnas Unedig yng Nghasnewydd.
Dywedodd Dr Thomas, 60 oed, sy’n dioddef o ddystroffi’r cyhyrau: “Rwyf wrth fy modd i ennill y gystadleuaeth ac yn hynod falch y caiff y sling ei dangos i ymwelwyr yn Amgueddfa’r Glannau. Mae llawer o bobl wedi sôn pa mor ymarferol yw’r sling ond mae’n wych derbyn cydnabyddiaeth. “
Mae’r Promove yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i symud unigolion mewn sefyllfaoedd anodd. Medrir ei defnyddio i symud a thrin pobl analluog neu anabl, yn cynnwys unigolion trwm hyd at 45 stôn, mewn gofod cyfyng neu yn yr awyr agored lle na fedrir defnyddio hoist.
Dywedodd Steph Mastoris, pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ac un o feirniaid y gystadleuaeth: “Roedd gennym bedwar cynnig ardderchog yn rownd derfynol cystadleuaeth Ffau Dyfeiswyr ond roedd y sling Promove yn rhagori ym marn yr holl feirniaid.
“Yn ogystal â bod â photensial masnachol ardderchog, mae ymchwil Dr Thomas i’r pwnc ynghyd â’i brofiadau personol ei hunan yn rhoi gwir hygrededd iddo. Fe fedraf weld y ddyfais yn mynd ymhell, gyda’r boblogaeth yn heneiddio a’r cynnydd mawr yn nifer y bobl gordew ar draws y byd. Dylid canmol y ddyfais am ateb galw cymdeithasol.”
Mae’r sling yn addas ar gyfer gwasanaethau argyfwng, darparwyr gwasanaeth meysydd awyr, rheolwyr cyfleusterau cyhoeddus a’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cynnyrch yn cael ei dreialu gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd, yn ogystal â gan frigadau eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Dr Thomas hefyd yn cynnal trafodaethau gyda dosbarthwyr mor bell ag America, Ffrainc, yr Almaen ac Iwerddon. Enillodd fedal efydd yn ddiweddar yn Arddangosfa Ryngwladol Dyfeisiadau 2008 a gynhaliwyd yng Ngenefa.
Medrir dodi Promove yn rhwydd o dan berson analluog sydd ar y ddaear, yn eistedd mewn cadair neu wedi’i gyfyngu mewn cornel dyn. Mae’r sling yn rhoi cefnogaeth dda, gan ffurfio sedd gadarn siâp bwced dan yr unigolyn. Mae handlenni mewn lleoliad strategol ar y ddyfais yn ei gwneud yn bosibl i’w defnyddio gan ddau neu bedwar gweithiwr (neu hyd at wyth ar gyfer unigolion trwm iawn).
Y ceisiadau eraill ar y rhestr fer yng nghystadleuaeth Ffau Dyfeiswyr oedd: cynnyrch sy’n addysgu rhieni i gyfathrebu gyda’u babanod drwy iaith arwyddion, teclyn dal camera y medrir ei osod ar arwynebedd ac sy’n ei gwneud yn bosibl i’r ffotograffydd fod yn y llun a dyfais agor pecyn sy’n ei gwneud yn bosibl rhannu snaciau mewn modd glanwaith.
Wrth gyhoeddi enillydd y Ffau Dyfeiswyr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas: “Cafodd llawer o ddyfeisiadau gwych eu creu yng Nghymru ac mae gennym bob hawl i fod yn falch o orffennol dyfeisgar ein gwlad - yma y crëwyd y locomotif rheilffordd stêm cyntaf a’r awyren gyntaf. Mae llawer o dalent ymhlith ein pobl a daw llawer o syniadau a dyfeisiadau gwych allan o’r wlad yn y dyfodol. Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn lle gwych i arddangos y Ffau Dyfeiswyr gan ei fod yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddweud hanes diwydiannol Cymru.”
Cefnogir y Ffau Dyfeiswyr gan Rwydwaith Arloeswyr Cymru (WIN), cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth broffesiynol i egin entrepreneuriaid i’w helpu i ddatblygu eu cysyniadau yn gynnyrch masnachol.
There are no comments yet.
Lorum ipsum why not leave a comment and tell us what you think? We moderate the comments, spammers and abusive posters will be banned.